ccyfeiriad at Eseia 66:24

Mark 9

1Yna meddai wrthyn nhw, “Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n dod mewn grym i deyrnasu.”

Y Gweddnewidiad

(Mathew 17:1-13; Luc 9:28-36)

2Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Roedden nhw yno ar eu pennau eu hunain. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid. 3Trodd ei ddillad yn wyn llachar; yn wynnach nag y gallai unrhyw bowdr golchi fyth eu glanhau. 4Wedyn dyma Elias a Moses yn ymddangos o'u blaenau, yn sgwrsio gyda Iesu.

5Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Rabbi, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” 6(Doedd ganddo ddim syniad beth roedd yn ei ddweud go iawn – roedd y tri ohonyn nhw wedi dychryn cymaint!)

7Wedyn dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!”

8Yn sydyn dyma nhw'n edrych o'u cwmpas, a doedd neb i'w weld yno ond Iesu.

9Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw i beidio sôn wrth neb am beth welon nhw nes y byddai e, Mab y Dyn, wedi codi yn ôl yn fyw. 10(Felly cafodd y digwyddiad ei gadw'n gyfrinach, ond roedden nhw'n aml yn trafod gyda'i gilydd beth oedd ystyr “codi yn ôl yn fyw.”)

11Dyma nhw'n gofyn iddo, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”

12Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod gyntaf reit siŵr, i roi trefn ar bopeth. Ond pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod Mab y Dyn yn mynd i ddioddef llawer a chael ei wrthod? 13Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod, ac maen nhw wedi ei gam-drin yn union fel y mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.”

Iacháu bachgen oedd yng ngafael cythraul

(Mathew 17:14-20; Luc 9:37-43a)

14Pan ddaethon nhw at y disgyblion eraill roedd tyrfa fawr o'u cwmpas, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n dadlau gyda nhw. 15Cafodd y bobl sioc o weld Iesu, a dyma nhw'n rhedeg i'w gyfarch.

16“Am beth dych chi'n ffraeo gyda nhw?” gofynnodd.

17Dyma rhyw ddyn yn ei ateb, “Athro, des i â'm mab atat ti; mae'n methu siarad am ei fod wedi ei feddiannu gan ysbryd drwg sy'n ei wneud yn fud. 18Pan mae'r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae'n ei daflu ar lawr, ac yna mae'n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw'r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”

19“Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Dewch â'r bachgen yma.”

20Wrth iddyn nhw ddod â'r bachgen at Iesu dyma'r ysbryd drwg yn ei weld ac yn gwneud i'r bachgen gael ffit epileptig. Syrthiodd ar lawr a rholio o gwmpas yn glafoerio o'i geg.

21Dyma Iesu'n gofyn i'r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn. 22“Mae'r ysbryd drwg wedi ei daflu i ganol tân neu geisio'i foddi mewn dŵr lawer gwaith. Os wyt ti'n gallu gwneud unrhyw beth i'n helpu ni, plîs gwna.”

23“Beth wyt ti'n feddwl ‘Os wyt ti'n gallu’?” meddai Iesu. “Mae popeth yn bosib i'r sawl sy'n credu!”

24Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!”

25Pan welodd Iesu fod tyrfa o bobl yn rhedeg i weld beth oedd yn digwydd, dyma fe'n ceryddu'r ysbryd drwg a dweud wrtho, “Ysbryd mud a byddar, tyrd allan o'r plentyn yma, a paid byth mynd yn ôl eto.”

26Dyma'r ysbryd yn rhoi sgrech ac yn gwneud i'r bachgen ysgwyd yn ffyrnig, ond yna daeth allan. Roedd y bachgen yn gorwedd mor llonydd nes bod llawer yn meddwl ei fod wedi marw. 27Ond gafaelodd Iesu yn ei law a'i godi, a safodd ar ei draed.

28Ar ôl i Iesu fynd i mewn i dŷ, gofynnodd ei ddisgyblion iddo'n breifat, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?”

29Atebodd Iesu, “Dim ond trwy weddi mae ysbrydion drwg fel yna'n dod allan.”

Iesu'n dweud eto ei fod yn mynd i farw

(Mathew 17:22-23; Luc 9:43b-45)

30Dyma nhw'n gadael yr ardal honno ac yn teithio drwy Galilea. Doedd gan Iesu ddim eisiau i unrhyw un wybod ble roedden nhw, 31am ei fod wrthi'n dysgu ei ddisgyblion. “Dw i, Mab y Dyn,” meddai wrthyn nhw, “yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” 32Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo.

Pwy ydy'r pwysica

(Mathew 18:1-5; Luc 9:46-48)

33Dyma nhw'n cyrraedd Capernaum. Pan oedd yn y tŷ lle roedden nhw'n aros gofynnodd Iesu i'r disgyblion, “Am beth oeddech chi'n dadlau ar y ffordd?” 34Ond wnaeth neb ateb. Roedden nhw wedi bod yn dadlau pwy oedd y pwysica.

35Eisteddodd Iesu i lawr, a galw'r deuddeg disgybl ato, ac meddai wrthyn nhw, “Rhaid i'r sawl sydd am fod yn geffyl blaen ddysgu mynd i'r cefn a gwasanaethu pawb arall.”

36Gosododd blentyn bach yn y canol o'u blaenau. Yna cododd y plentyn yn ei freichiau, a dweud wrthyn nhw, 37“Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am eu bod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi, yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i.”

Mae pwy bynnag sydd ddim yn ein herbyn ni o'n plaid.

(Luc 9:49,50)

38Dyma Ioan yn dweud wrtho, “Athro, gwelon ni rhywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”

39“Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Does neb yn gwneud gwyrth yn fy enw i yn mynd i ddweud pethau drwg amdana i y funud nesa. 40Os ydy rhywun ddim yn ein herbyn ni, mae o'n plaid ni. 41Credwch chi fi, mae unrhyw un sy'n rhoi diod o ddŵr i chi am eich bod yn bobl y Meseia yn siŵr o gael ei wobr.

Gwneud i rywun bechu

(Mathew 18:6-9; Luc 17:1,2)

42“Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi ei rwymo am ei wddf. 43Os ydy dy law yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu, na bod gen ti ddwy law a mynd i uffern, lle dydy'r tân byth yn diffodd.
9:43 byth yn diffodd: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn.44, lle dydy'r cynrhon ddim yn marw, a'r tân byth yn diffodd (gw. adn.48)
45Ac os ydy dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i'r bywyd newydd yn gloff, na bod gen ti ddwy droed a chael dy daflu i uffern.
9:45 uffern: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn.46, lle dydy'r cynrhon ddim yn marw, a'r tân byth yn diffodd (gw. adn.48)
47Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan. Mae'n well i ti fynd i mewn i deyrnas Dduw gyda dim ond un llygad na bod gen ti ddwy a chael dy daflu i uffern, 48lle

‘dydy'r cynrhon ddim yn marw,
a'r tân byth yn diffodd.’ c

49“Bydd pawb yn cael eu puro â thân.

50“Mae halen yn beth defnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas, pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Byddwch â halen ynoch, a byw'n heddychlon gyda'ch gilydd.”

Copyright information for CYM